Colm Tóibín

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Colm Tóibín
Colm toibin 2006.jpg
Colm Tóibín yng Ngŵyl Lyfrau Texas, Austin, Texas, yr Unol Daleithiau.
Ganwyd (1955-05-30) 30 Mai 1955 (63 oed)
Enniscorthy, County Wexford, Ireland
Gwaith Writer, journalist
Iaith English
Cenedligrwydd Irish
Addysg B.A., (Hon) D.Litt.
Alma mater University College Dublin (UCD)
Cyfnod Late 20th century – Early 21st century
Genre Essay, Novel, Short Story, Play, Poem
Pynciau Irish society, living abroad, the process of creativity, the preservation of a personal identity
Gwaith nodedig The Heather Blazing
The Story of the Night
The Blackwater Lightship
The Master
Brooklyn
Gwefan
colmtoibin.com

Mae Colm Tóibín (ganwyd 30 Mai 1955) yn nofelydd, ysgrifennwr storïau byr, ysgrifwr, dramodydd, newyddiadurwr, adolygydd a bardd Gwyddelig.

Ar hyn o bryd maeTóibín yn Irene a Sidney B. Silverman, Athro yn y Dyniaethau ym Mhrifysgol Columbia , ac yn olynnydd i Martin Amis fel athro ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Manceinion. Penodwyd ef yn Ganghellor Prifysgol Lerpwl yn 2017.[3] Fe'i ganmolid fel hyrwyddwr o leiafrifoedd wrth iddo gasglu Wobr PEN 2001 Iwerddon,[4] hefyd yn yr un flwyddyn, fe'i enwid yn un o'r '300 Prif Ddeallusyn Prydain' ym mhapur  The Observer er ei fod yn Wyddel.[5]

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Tóibín yn Enniscorthy, Sir Wexford, yn y de-ddwyrain Iwerddon yn 1955 iw rieni  Bríd a Michael Tóibín.[6] Yntau oedd yr ail ieuengaf o bump o blant. Roedd ei daid, Patrick Tobin, yn aelod o'r IRA, a hefyd  ei hen-ewythr Michael Tobin. Cymerodd Patrick Tobin ran yn y Gwrthryfel 1916 yn Enniscorthy a cafodd  ei gaethiwo yn Frongoch yng Nghymru. Athro oedd tad Tóibín  a oedd yn ymwneud â'r blaid wleidyddol Fianna Fáil  yn Enniscorthy; bu farw pan oedd Colm yn 12 mlwydd oed.

Magwyd Tóibín  mewn cartref lle roedd, meddai,        "cryn dipyn o dawelwch."[7] Nid oedd yn medru darllen tan iddo fod yn naw mlwydd oed, ac roedd ganddo atal dweud garw.[8] Derbyniodd ei addysg uwchradd yng Ngholeg San Pedr, Sir Wexford, lle yr oedd yn preswylio  rhwng 1970 a 1972. Yn ddiweddarach siaradodd am ddod o hyd i rai o'r offeiriaid yno'n ddeniadol.[9]

Ym mis Gorffennaf 1972, yn 17 oed, cafodd waith  haf yn gweithio tu ôl i'r bar yn y Grand Hotel yn Tramore,  Sir Waterford, yn gweithio o chwech yn y nos hyd at  ddau yn y bore. Treuliodd ei ddyddiau ar y traeth, yn darllen The Essential Hemingway,  a honai fod copi o'r llyfr hwn dal yn ei feddiant a'i "dudalennau wedi eu lliwio gan ddŵr môr." Datblygodd y llyfr hwn ei ddiddordeb gyda Sbaen, gan arwain at ddymuno ymweld â'r wlad, a rhoddodd iddo  "syniad o ryddiaith fel rhywbeth hudolus, smart a siapus, a syniad o gymeriad mewn ffuglen fel rhywbeth rhyfeddol ddirgelus, yn deilwng o gydymdeimlad ac edmygedd, ond hefyd yn anniffiniol. Ac yn fwy na dim, pleser pur y brawddegau a'u rhythmau, a'r swm o emosiwn a oedd yn byw yn yr hyn nad oedd yn cael ei ddweud, beth oedd rhwng y geiriau a'r brawddegau."[10]

Symudodd ymlaen i Goleg Prifysgol Dulyn, gan raddio ym 1975. Yn syth ar ôl graddio, gadawodd am Barcelona. Ysbrydolwyd nofel gyntaf Tóibín The South, (1990au) yn rhannol  gan ei amser ym Marcelona, fel yr oedd, yn fwy uniongyrchol, ei waith ddi-ffuglen Homage to Barcelona (1990). Ar ôl dychwelyd i Iwerddon yn 1978, dechreuodd i astudio ar gyfer gradd meistr. Fodd bynnag, ni gyflwynodd ei thesis a gadawodd y byd academaidd, o leiaf yn rhannol, ar gyfer gyrfa mewn newyddiaduraeth.

Roedd y 1980au cynnar yn gyfnod enwedig o lachar i newyddiaduraeth Gwyddelig ac yn anterth i gylchgrawn newyddion misol Magill. Daeth Tóibín yn olygydd y cylchgrawn yn 1982, a bu yn y swydd tan 1985. Gadawodd o ganlyniad i anghydfod gyda Vincent Browne, cyfarwyddwr Magill's.

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Dilynnwyd The South  gan The Heather Blazing  (1992), Story of the Night (1996) a The  Blackwater Lightship (1999). Mae ei bumed nofel, The Master  (2004), yn gofnod ffuglennol o rannau ym mywyd awdur Henry James. Ef yw awdur llyfrau ffeithiol eraill: : Bad Blood:A Walk Along the Irish Border (1994), (ailargraffwyd o'r argraffiad gwreiddiol o 1987) ac The Sign of the Cross: Travels in Catholic Europe (1994).

Mae Tóibín wedi ysgrifennu dwy gyfrol stori fer. Mae ei gasgliad cyntaf, Mothers and Sons, sydd, fel mae'r enw yn awgrymu yn edrych ar y berthynas rhwng mamau a'u meibion, a gyhoeddwyd yn 2006, a gafodd adolygiad ffafriol (gan gynnwys gan Pico Iyer yn Y New York Times).Cyhoeddwyd ei ail,a oedd yn gasgliad ehangach, The Empty Family, yn 2010,[11] a gafodd ei roi ar y rhestr fer ar gyfer y (2011) Frank O'Connor International Short Story Award.[12]

Ysgrifennodd Tóibín  ddrama, sy'n dwyn y teitl Beauty in a Broken Place, a gafodd ei chynnal yn Nulyn ym mis Awst 2004. Mae wedi parhau i weithio fel newyddiadurwr, yn Iwerddon a thramor, gan ysgrifennu ar gyfer y  London Review of Books ymhlith cyhoeddiadau eraill. Mae hefyd wedi ennill enw da fel beirniad llenyddol: mae wedi golygu llyfr ar Paul Durcan, The Kilfenora Teaboy (1997), ac yn  The Penguin Book of Irish Fiction (1999); ac mae wedi ysgrifennu  The Modern Library: The 200  Best Novels in English since 1950 (1999), gyda Carmen Callil. Mae hefyd wedi ysgrifennu casgliad o ysgrifau, Love in a Dark Time: Gay Lives from Wilde to Almodóvar (2002), ac astudiaeth ar Lady Gregory, Lady Gregory's Toothbrush (2002).

Anfonnodd Tóibín  ffotograff o Borges i Don DeLillo, sy'n ei ddisgrifio fel " wyneb Borges yn erbyn cefndir tywyll—Borges ffyrnig, dall, ei ffroenau'n agored, ei groen wedi ei ymestyn yn dynn, ei geg yn rhyfeddol o fywiog; ei geg yn edrych fel ei fod wedi ei beintio; ei fod fel siaman wedi ei beintio ar gyfer gweledigaethau, â'r mae i'r wyneb cyfan rhyw fath o berlewyg duraidd". Mae DeLillo yn aml yn ceisio cael ysbrydoliaeth oddi wrtho.[13]

Yn 2011, cyhoeddoedd The Times Literary Supplement  ei gerdd "Cush Gap, 2007".[14]  Daeth 2012 a chyhoeddiad The Testament of Mary. Yn 2014, bu iddo ryddhau ei nofel  llawn-hyd cyntaf ers ei nofel Brooklyn (2009), portread o weddw ddiweddar, a mam i bedwar yn Wexford â'i thrafferth drwy'r cyfnod o alar, o'r enw Nora Webster.

Yn 2015, cyn y refferendwm ar Briodas Cydraddoldeb, bu i Tóibín gyflwyno sgwrs yn dwyn y teitl "Cofleidiad Cariad:  Bod yn Hoyw yn Iwerddon Nawr" yn Trinity Hall, gan gynnwys dyddiaduron Roger Casement, o waith Oscar Wilde, John Broderick a Kate O'brien, a brwydrau Uchel Lys yr 1980au y Seneddwr David Norris.[15] Yn yr un flwyddyn,  rhyddhäodd On Elizabeth Bishop, astudiaeth feirniadol a gyrrhaeddodd restr Llyfrau Gorau Y Guardian 2015 ddwywaith.[16]

Arddull[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Tóibín wedi dweud y daw ei ysgrifennu allan o dawelwch. Nid oes well ganddo stori ac nid yw'n gweld ei hun fel storïwr. Mae wedi dweud, "Bod gorffen nofel bron fel rhoi plentyn i gysgu – ni ellir ei wneud yn sydyn."[17]

Mae Tóibín yn gweithio o dan yr amodau mwyaf eithafol, difrifol, a llym. Mae'n eistedd ar gadair galed, anghyfforddus sy'n achosi poen iddo. Pan yn gweithio ar ddrafft cyntaf mae'n gorchuddio ochr dde'r dudalen; ac yna nes ymlaen gwnai peth ail-ysgrifennu ar yr ochr chwith. Mae'n cadw prosesydd geiriau mewn ystafell arall ar gyfer trosglwyddo gwaith ysgrifenedig yn nes ymlaen.[18]

Themâu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gwaith Tóibín yn archwilio nifer o prif themâu: y darlun o gymdeithas Wyddelig, byw tramor, y broses o greadigrwydd, a diogelu hunaniaeth bersonol, yn canolbwyntio yn enwedig ar hunaniaeth gyfunrywiol, ond hefyd ar y hunaniaeth wrth wynebu profedigaeth. Mae nofelau "Swydd Wexford", The Heather Blazing a The Blackwater Lightship, i'll dau'n defnyddio Enniscorthy, tref genedigol  Tóibín geni, fel deunydd naratif, ynghyd â hanes Iwerddon a marwolaeth ei dad. Gelid dod o hyd i adroddiad hunangofiannol a myfyrio ar y bennod hon, yn y llyfr ffeithiol, The Sign of the Cross. Yn 2009, cyhoeddodd Brooklyn, stori o wraig yn ymfudo i Brooklyn o Enniscorthy.

Mae dwy nofel arall, The Story of the Night ac  The Master, yn troi o gwmpas cymeriadau sydd yn gorfod gwynebu hunaniaeth cyfunrywiol a sy'n cymryd lle y tu allan i Iwerddon, rhan fwyaf, gydag un cymeriad yn gorfod ymdopi â byw dramor. Mae ei nofel gyntaf,  The South, yn ymddangos i gynnwys themâu o'r ddwy linell o waith. Gellir ei darllen ar y cyd â The Heather Blazing fel diptych o etifeddiaeth Protestannaidd a Chatholig  Sir Wexford, neu gellir ei cyfuno gyda'r nofelau "byw dramor". Y trydydd pwnc sy'n dolennu  The South a The Heather Blazing yw'r greadigaeth, o baentio yn yr achos cyntaf ac yng  ngeiriad  gofalus dyfarniad y barnwr yn yr ail. Y trydydd llinnell thematig arweiniodd at  The Master, sef astudiaeth ar hunaniaeth, ragflaenwyd gan lyfr di-ffuglen ar yr un pwnc, Love in a Dark Timea. Mae'r llyfr o storïau byrion "Mothers and Sons" yn delio gyda themâu teuluol, y naill yn Iwerddon a Chatalonia, a chyfunrywioldeb.

Mae Tóibín wedi ysgrifennu am rhyw hoyw mewn nifer o nofelau, er i Brooklyn gynnwys golygfa o ryw heterorywiol  lle mae'r arwres yn colli ei morwyndod.[19] Yn ei gasgliad o draethawdau yn 2012  New Ways to Kill Your Mother: Writers and Families  mae'n  astudio  bywgraffiadau  James Baldwin, J. M. Synge a W. B. Yeats, ymhlith eraill.[20]

Mae ei nodiadau personol a llyfrau gwaith yn preswylio yn  Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon.[21]

Mae Tóibín yn aelod o Aosdána ac mae wedi bod yn athro gwadd ym Mhrifysgol Stanford, Prifysgol Texas yn Austin ac Mhrifysgol Princeton. Mae hefyd wedi darlithio mewn nifer o brifysgolion eraill, gan gynnwys  Coleg Middlebury, Coleg Boston, Prifysgol Efrog Newydd, Prifysgol Loyola Maryland, ac yn  Coleg y Groes Sanctaidd. Yn 2017, bu'n darlithio yn Athens, yn Georgia ym Mhrifysgol Georgia Cadeirydd ar gyfer Deall Byd-eang.[22] Roedd yn athro ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Manceinion, gan lwyddo Martin Amis yn y swydd honno, ac ar hyn o bryd mae'n dysgu ym Mhrifysgol Columbia.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Tóibín yn agored hoyw.[23] Nid yw'n gywlio'r  teledu, gan cyfaddef ei fod wedi profi dryswch rhwng y gwleidyddion Ed Miliband ac Ed Balls. Y mae wedi arddelu ar yr hyfrydwch seimllyd o 'fry-up' yn y bore.[24]

Bu dathliadau penblwydd Tóibín yn 50 oed yn Nulyn gynnwys ffracas rhwng y dramodydd Tom Murphy â'r  impresario theatr Michael Colgan. Bu i Murphy daro pen Colgan hefo platiad o gyri.[25]

Gwobrau ac anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1993: Encore Award am ail nofel The Heather Blazing[26]
  • 1999: Booker Prize rhestr fer am The Blackwater Lightship
  • 2001: International IMPAC Dublin Literary Award rhestr fer am The Blackwater Lightship
  • 2006: International IMPAC Dublin Literary Award amThe Master
  • 2004 Booker Prize rhestr for am The Master
  • 2004 Los Angeles Times Nofel y Flwyddyn The Master
  • 2004 Stonewall Book Award am The Master
  • 2004 Lambda Literary Award am The Master
  • 2004 The New York Times un o lyfrau mwyaf nodedig y flwyddyn am The Master
  • 2007: Etholwyd Cymrawd i'r Royal Society of Literature.[27]
  • 2008: Gradd Anrhydeddus Doctor Llythrennau (DLitt), Prifysgol Ulster/University of Ulster  mewn cydnabyddiaeth i'w gyfranniad tuag at Lenyddiaeth gyfoes Gwyddelig.
  • 2009: Booker Prize rhestr-hir.[28]
  • 2009: Costa Novel Award am Brooklyn[29]
  • 2010 Gobrwywyd yn ystod y 38fed seremoni flynyddol yr AWB Vincent American Ireland Fund Literary Award.
  • 2011:Rhestr-fer International IMPAC Dublin Literary Award t[30]
  • 2011: Irish PEN Award tuag at gyfraniad i lenyddiaeth Gwyddelig.[31]
  • 2011 Frank O'Connor International Short Story Award rhestr-fer am The Empty Family.[32][33][34]
  • 2013: Rhestr-fer y Booker Prize am The Testament of Mary[35]
  • 2014: Enwyd fel ymddiriedolwr  i'r Griffin Trust For Excellence In Poetry, sydd yn gwobrwyo'r Griffin Poetry Prize
  • 2015: Gwobr Hawthornden am Nora Webster[36]
  • 2017: The Dayton Literary Peace Prize Richard C. Holbrooke Distinguished Achievement Award [37]
  • 2017: Gwobr Adolygiad Kenyon am Gyflawniad Llenyddol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffuglen[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffuglen byr[golygu | golygu cod y dudalen]

Ddyfynnu journal
Enw diwethaf
Tóibín
Enw cyntaf
Colm
Ffynhonnell dyddiad
4 Mawrth 2013
Teitl
Haf o '38
URL
http://www.newyorker.com/magazine/2013/03/04/summer-of-38
Cyfaint
89
Mater
3
Tudalennau
58-65
URL dyddiad mynediad
2015-05-08

Teitl Flwyddyn Cyhoeddwyd gyntaf Ailargraffwyd/casglu Haf o '38 2013 Tóibín, Colm (4 Mawrth 2013). "Haf o '38". Mae'r Efrog Newydd. 89 (3): 58-65. Adalwyd ar 2015-05-08.

Di-Ffuglen[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffilmograffi[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2017 : Return to Montauk (ysgrifennwr)

Darllen ychwanegol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Allen Randolph, Jody. "Colm Tóibín, December 2009." Close to the Next Moment. Manchester: Carcanet, 2010.
  • Boland, Eavan. "Colm Tóibín." Irish Writers on Writing. San Antonio: Trinity University Press, 2007.
  • Delaney, Paul. Reading Colm Tóibín. Dublin: Liffey Press, 2008, ISBN 978-1-905785-41-4978-1-905785-41-4
  • Educational Media Solutions, 'Reading Ireland, Contemporary Irish Writers in the Context of Place', 2012, Films Media Group
  • Costello-Sullivan, Kathleen. Mother/Country: Politics of the Personal in the Fiction of Colm Tóibín. Reimagining Ireland series. Ed. Eamon Maher. Bern: Peter Lang, 2012.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Colm Tóibín". The Guardian (London: Guardian Media Group). 11 June 2008. https://www.theguardian.com/books/2008/jun/11/colmtoibin. Adalwyd 11 June 2008.
  2. McCrum, Robert (14 November 2004). "The vanishing man". The Observer (London: Guardian Media Group). https://www.theguardian.com/books/2004/nov/14/fiction.features2. Adalwyd 14 November 2004. "To a new generation of Irish writers, Hogan has become, in his ascetic but romantic way, a fine example of a writer sacrificing everything to his art. [...] Writers like Tóibín revere him. 'The Ikon Maker was an iconic book for anyone interested in writing,' he says."
  3. Kean, Danuta (2 February 2017). "Colm Tóibín appointed chancellor of Liverpool University". The Guardian (London: Guardian Media Group). https://www.theguardian.com/books/2017/feb/02/colm-toibin-appointed-chancellor-liverpool-university-author-brooklyn-higher-education.
  4. Boland, Rosita (12 February 2011). "Tóibín on song as he pick up Irish Pen award". The Irish Times (Irish Times Trust). http://www.irishtimes.com/newspaper/ireland/2011/0212/1224289634748.html.
  5. Naughton, John (8 May 2011). "Britain's top 300 intellectuals". The Observer (London: Guardian Media Group). https://www.theguardian.com/culture/2011/may/08/top-300-british-intellectuals.
  6. Salter, Jessica (27 February 2012). "The World of Colm Tóibín". The Daily Telegraph (London). http://www.telegraph.co.uk/culture/books/authorinterviews/9108553/World-of-Colm-Toibin-writer.html. The Telegraph, 27 February 2012.
  7. Tóibín, Colm (17 February 2012). "Colm Tóibín: writers and their families". The Guardian (London: Guardian Media Group). https://www.theguardian.com/books/2012/feb/17/colm-toibin-how-i-killed-my-mother.
  8. "Colm Toibin: By the Book". The New York Times (New York). 1 October 2015. https://www.nytimes.com/2015/10/04/books/review/colm-toibin-by-the-book.html.
  9. "Austen was a woeful speller . . .". Irish Independent. 30 October 2010. http://www.independent.ie/entertainment/books/austen-was-a-woeful-speller-2400466.html. Irish Independent. 30 October 2010. 'Although not abused by priests in the Wexford school he attended, he positively fancied some of them. "Aged 15 or 16," he tells interviewer Susanna Rustin, "I found some of the priests sexually attractive, they had a way about them . . . a sexual allure which is a difficult thing to talk about because it's usually meant to be the opposite way round"'.
  10. "The best holiday reads: Colm Tóibín". The Guardian (London: Guardian Media Group). 17 June 2011. https://www.theguardian.com/books/2011/jun/17/best-holiday-reads.
  11. "The Empty Family Stories". http://www.colmtoibin.com/content/empty-family-stories.
  12. Cullen, Conor. "Tóibín in line for major prize" Error in webarchive template: Check |url= value. Empty. . Enniscorthy Guardian. 12 July 2011.
  13. Begley, Adam. "Don DeLillo, The Art of Fiction No. 135". Paris Review. http://www.theparisreview.org/interviews/1887/the-art-of-fiction-no-135-don-delillo.
  14. "Toibin tries his hand at poetry . . .". Irish Independent. 18 June 2011. http://www.independent.ie/entertainment/books/toibin-tries-his-hand-at-poetry-2678604.html. Irish Independent. Retrieved on 18 June 2011.
  15. Blake Knox, Kirsty (15 May 2015). "'Gay people have a right to ritualise and copper-fasten their love' - Tóibín". Irish Independent. http://www.independent.ie/irish-news/referendum/gay-people-have-a-right-to-ritualise-and-copperfasten-their-love-tibn-31224190.html.
  16. "On Elizabeth Bishop Colm Tóibín". http://press.princeton.edu/titles/10425.html.
  17. Barnett, Laura (19 February 2013). "Colm Tóibín, novelist – portrait of the artist". The Guardian (London: Guardian Media Group). https://www.theguardian.com/books/2013/feb/19/colm-toibin-novelist-portrait-artist.
  18. Tóibín, Colm (13 July 2007). "Writers' rooms: Colm Tóibín". The Guardian (London: Guardian Media Group). https://www.theguardian.com/books/2007/jul/13/writers.rooms.colm.toibin#.
  19. Rustin, Susanna (16 October 2010). "Let's not talk about sex – why passion is waning in British books". The Guardian (London: Guardian Media Group). https://www.theguardian.com/books/2010/oct/16/sex-disappearing-from-novels.
  20. Hadley, Tessa (22 February 2012). "New Ways to Kill Your Mother by Colm Tóibín – review". The Guardian (London: Guardian Media Group). https://www.theguardian.com/books/2012/feb/22/new-ways-kill-mother-colm-toibin-review.
  21. Telford, Lyndsey (21 December 2011). "Seamus Heaney declutters home and donates personal notes to National Library". Irish Independent (Independent News & Media). http://www.independent.ie/entertainment/arts/seamus-heaney-declutters-home-and-donates-personal-notes-to-national-library-2970392.html.
  22. Butschek,H. (2017). Author of 'Brooklyn' coming for 3 days of events in Athens. Onlone Athens. http://onlineathens.com/features/2017-03-14/author-brooklyn-coming-3-days-events-athens
  23. Kaplan, James (6 June 2004). "A Subtle Play of Relations Reveals Henry James in Full". The Observer (Guardian Media Group). http://observer.com/2004/06/a-subtle-play-of-relations-reveals-henry-james-in-full/.
  24. "Colm Tóibín on the allure of the breakfast fry-up". 25 May 2015. http://www.rte.ie/ten/news/2015/0525/703707-colm-toibin-on-the-allure-of-the-greasy-fry/.
  25. Sheridan, Kathy (27 September 2014). "Colm Tóibín: I start and I finish". The Irish Times. http://www.irishtimes.com/culture/books/colm-t%C3%B3ib%C3%ADn-i-start-and-i-finish-1.1943080.
  26. "Colm is an author of formidable talent". Wexford People. 29 June 2011. http://www.independent.ie/regionals/wexfordpeople/news/colm-is-an-author-of-formidable-talent-27725312.html.
  27. "Royal Society of Literature All Fellows". Royal Society of Literature. Archifwyd o y gwreiddiol ar 5 March 2010. https://web.archive.org/web/20100305070326/http://www.rslit.org/content/fellows.
  28. Brown, Mark (28 July 2009). "Heavyweights clash on Booker longlist". The Guardian (London: Guardian Media Group). https://www.theguardian.com/books/2009/jul/28/heavyweights-clash-booker-longlist.
  29. "Tóibín wins Costa Novel Award". RTÉ Arts (RTÉ). 4 January 2010. http://www.rte.ie/arts/2010/0104/costaawards.html.
  30. "William Trevor makes an Impac". The Irish Times (Irish Times Trust). 12 April 2011. http://www.irishtimes.com/newspaper/features/2011/0412/1224294471315.html.
  31. Walsh, Caroline (4 February 2011). "Colm Tóibín wins Irish Pen award". The Irish Times (Irish Times Trust). http://www.irishtimes.com/newspaper/ireland/2011/0204/1224288985697.html. Adalwyd 4 February 2011.
  32. Cullen, Conor (12 July 2011). "Tóibín in line for major prize". Enniscorthy Guardian. Archifwyd o y gwreiddiol ar 4 October 2011. https://web.archive.org/web/20111004071532/http://www.enniscorthyguardian.ie/news/tx00f3ibx00edn-in-line-for-major-prize-2819695.html. Adalwyd 12 July 2011.
  33. Walsh, Caroline (9 July 2011). "Two Irish authors make awards shortlist". The Irish Times (Irish Times Trust). http://www.irishtimes.com/newspaper/weekend/2011/0709/1224300361201.html. Adalwyd 9 July 2011.
  34. Flood, Alison (9 July 2011). "Strong showing for Irish writers on Frank O'Connor shortlist". The Guardian (London: Guardian Media Group). https://www.theguardian.com/books/2011/jul/12/irish-writers-frank-o-connor-shortlist. Adalwyd 9 July 2011.
  35. "Error: no |title= specified when using {{Cite web}}". 7 August 2013. Archifwyd o y gwreiddiol ar 30 November 2014. https://web.archive.org/web/20141130051454/http://www.themanbookerprize.com/man-booker-prize-2013. Adalwyd 2 December 2014.Missing or empty |title= (help)
  36. "Error: no |title= specified when using {{Cite web}}". 23 July 2015. http://www.irishtimes.com/culture/books/colm-t%C3%B3ib%C3%ADn-wins-hawthornden-prize-for-nora-webster-1.2294019. Adalwyd 23 July 2015.Missing or empty |title= (help)
  37. https://www.washingtonpost.com/national/apnewsbreak-irish-novelist-wins-ohio-literary-peace-award/2017/07/13/0ebdf5d2-67ac-11e7-94ab-5b1f0ff459df_story.html
  38. http://www.panmacmillan.com/Titles/displayPage.asp?PageTitle=Individual%20Title&BookID=386178[dolen marw]
  39. "Archived copy". Archifwyd o y gwreiddiol ar 9 January 2015. https://web.archive.org/web/20150109003759/http://www.thamesandhudson.com/Sean_Scully_-_Walls_of_Aran/9780500543399.
  40. http://www.colmtoibin.com/content/guest-feast-memoir
  • Ryan, Ray. Ireland and Scotland : Literature and Culture, State and Nation, 1966-2000. Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]