Glyn Wise

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Glyn Wise
Ganwyd 9 Ionawr 1988 Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru

Ymgeisydd gwleidyddol, cyflwynydd radio, Cymreig a chyn-gystadleuydd Big Brother yw Glyn Thomas Wise (ganwyd 9 Ionawr 1988). Mae'n hanu o Flaenau Ffestiniog ond erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Cymraeg yw ei famiaith.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog, Gwynedd, mynychodd Ysgol y Moelwyn cyn symud i Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst lle roedd yn Brif Fachgen.[1] Tra oedd yn yr ysgol, bu'n gweithio fel achubwr bywyd rhan amser yn ei bwll nofio lleol.[2]

Aeth ymlaen i astudio am radd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd gan ennill radd 2:1 yn 2011.[3]

Ymddangosiad ar Big Brother[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan ymddangosodd ar raglen Saesneg Big Brother 7, bu'n aml yn siarad yn Gymraeg â'i gyd-gystadleuydd Imogen Thomas a chyfieithwyd eu sgyrsiau gydag is-deitlau.

Tra yn y tŷ dysgodd Glyn nifer o sgiliau yn y gegin, megis berwi wy - dathlodd hyn drwy ganu cân yn fyrfyr. Dysgodd cyd-gystadleuydd, Richard, ef sut i olchi'i ddillad. Newidiodd ei steil gwallt yn aml tra yn y tŷ, ynghyd â Pete, gan ei gadw'n flêr, ei eillio a'i liwio yn lliwiau gwahanol. Yn y rownd derfynol daeth Glyn yn ail, gyda 38.8% o'r bleidlais.

Yn dilyn ei ymadawiad o'r tŷ, ymddangosodd Glyn ar nifer o raglenni teledu a radio Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys ar sianeli S4C a Radio Cymru.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfryngau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng 2007 a 2011 roedd yn gyflwynydd rheolaidd ar raglen C2 Radio Cymru, i'w glywed ar yr awyr bob nos Fercher a nos Iau gyda Magi Dodd rhwng 8 a 10 y nos.[4] Mae wedi ymddangos mewn hysbyseb yn y ddwy iaith, yn hybu rhoi gwaed. Animeiddiwyd Glyn ar gyfer cartŵn S4C, Cnex.[5] Cyflwynodd raglen Planed Plant ar 30 Hydref 2006.[6] Ymddangosodd fel mentor ar raglen The Big Welsh Challenge yn 2007, yn dysgu Di Botcher i siarad Cymraeg mewn 12 mis. Roedd Glyn wedi datgan ei awydd i fod yn athro Cymraeg yn nhŷ Big Brother.[7]

Lansiodd Glyn ei lyfr Blwyddyn Fawr Glyn Wise yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai 2007. Golygwyd y llyfr gan Beca Brown, ac mae'r llyfr yn un hunangofiannol â phwyslais ar ei flwyddyn ers gadael Big Brother.[8]

Byd Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2012, cafodd swydd fel athro Cymraeg yn Ysgol Rhydywaun.[9] Yn 2014, cychwynnodd swydd newydd fel Swyddog Lled Ffurfiol yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a'r Fro.[10]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2015, dewiswyd Glyn fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016 ar gyfer etholaeth Canol Caerdydd. Daeth yn bedwerydd yn yr etholiad gyda 1,951 (7.5%) o bleidleisiau.[11] Ym mis Awst 2016 cyhoeddodd ei fod wedi penderfynu gadael Plaid Cymru am nad oedd yn rhannu "yr un weledigaeth ar gyfer dyfodol ein gwlad" gyda'r blaid.[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]