John Williams (Eryr Glan Gwawr)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am bobl eraill o'r enw John Williams gweler John Williams (tudalen gwahaniaethu).
John Williams
John Williams 1905.JPG
Ganwyd 1861 Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Mehefin 1922 Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd, undebwr llafur, gweinidog, bardd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur, Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd y Parch John Williams (Eryr Glan Gwawr), (186120 Mehefin 1922) yn undebwr llafur, yn gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn bardd gwlad a wasanaethodd etholaeth Gŵyr fel aelod seneddol rhwng 1906 a 1922[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Williams yn Aberaman, Aberdâr, yn y flwyddyn 1861, yn ail fab i David Williams, glowr a Hannah (1838-1916), ei wraig[2]. Roedd gwreiddiau teulu'r tad yn Cilycwm Sir Gaerfyrddin.

Mynychodd Ysgol Brydeinig Aberaman gan ymadael a'r ysgol i weithio ym mhwll y Plough, Aberaman yn 12 mlwydd oed. Ond wedi gadael yr ysgol parhaodd gyda'i addysg trwy fynychu dosbarthiadau nos.

Ym 1885 priododd Elizabeth; bu iddynt 13 o blant [3]

Glowr[golygu | golygu cod y dudalen]

Swydd gyntaf Williams yn y pwll oedd swydd dryswr; un o'r swyddi mwyaf diflas ac undonog gellir ei dychmygu. Bu'r dryswr yn eistedd yn y tywyllwch a'r distawrwydd am oriau yn disgwyl i löwr mynd heibio, gan agor a chau drws ar ei gyfer[4]. O'r Plough aeth i weithio ym mhyllau Fforchaman, Canol Duffryn ac Aberaman.

Ar ôl cyfnod yn y pyllau cafodd ei benodi'n gynorthwyydd mewn siop gydweithredol yn Aberaman a oedd yn cael ei redeg gan y glowyr. Wedi cael blas ar waith siop agorodd siop groser ar ei liwt ei hun. Methodd ei siop ym 1887, o ganlyniad i ddiffyg busnes yn codi o'r ffaith bod y glowyr wedi bod ar streic[5]. Dychwelodd i weithio tan ddaear.

Cynrychiolydd y glowyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd glowyr yn y 1880au yn cael eu talu yn ôl faint o lo yr oeddynt yn cynhyrchu ac ar raddfa llithro yn seiliedig ar bris y farchnad am lo. Roedd llawer o'r glowyr yn brin o fanteision addysg a hawdd oedd i gynrychiolwyr y glofeydd eu twyllo allan o'u haeddiant. Wedi llawer i anghydfod crëwyd trefn lle bu gan y glowyr hawl i ethol cynrychiolydd i wirio eu bod yn cael eu talu yn gywir. O fewn ychydig wythnosau iddo ddychwelyd i weithio yn y pyllau ym 1887 etholwyd Williams yn brawf bwyswr glofa Lady Windsor, Ynysybwl. Ym 1888 etholwyd Williams yn gadeirydd pwyllgor y raddfa lithro.

Ym 1893 etholwyd Williams a Mabon i wirio buddiannau’r gweithwyr wrth i'r Mesur Wyth Awr mynd ar ei daith trwy Dŷ'r Cyffredin. Ym 1894 gofynnwyd i Williams i weithredu ar ran Gyngor Sir Forgannwg er mwyn rhoi tystiolaeth yn erbyn mesurau cwmnïau Rheilffordd Dyffryn Taf a Rheilffordd Ddwyrain Morgannwg, wrth iddynt fynd o flaen Tŷ'r Arglwyddi.

Ym 1898 penodwyd Williams yn Asiant Adran Orllewinol Ffederasiwn y Glowyr. Trwy'r penodiad daeth yn swyddog undeb cyflogedig dros weithwyr ym mhyllau Cwm Tawe, Cwm Nedd, Cwm Garw, Llanelli, Resolfen ac Abergwynfi.

Ym 1899 bu Williams, William Brace a Mabon yng nghynhadledd flynyddol Undeb Glowyr Prydain Fawr i wneud cais am i Ffederasiwn Glowyr De Cymru cael dod yn rhan o'r undeb[6].

Bardd ac Eisteddfodwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Does dim sicrwydd pwy oedd athro barddol Williams na pha bryd y cafodd ei urddo'n aelod o Orsedd y Beirdd. Ond erbyn 1883, yn 22 oed, roedd yn gwasanaethu fel ysgrifennydd gohebol Eisteddfod Gerddorol Gadeiriol Aberdâr gan ddefnyddio'r enw barddol Eryr Glan Gwawr. Tarddiad yr enw barddol oedd bod yr eryr wedi esgyn o fwthyn ar lan Nant Gwawr, Aberaman, lle cafodd ei fagu'n grwt[7]. O tua'r un cyfnod mae enw Eryr Glan Gwawr yn ddechrau ymddangos yn adroddiadau'r papurau Cymreig fel enillydd mewn cystadlaethau areithio, traethodau a barddoniaeth man eisteddfodau ac wedyn fel arweinydd eisteddfodau.[8]. Mae enghreifftiau o'i ganu rhydd a chaeth yn dechrau ymddangos yng ngholofnau barddonol y papurau lleol[9] a chof-meini mynwentydd lleol.

Mae ei gyfraniad fel bardd gwlad, un sy'n canu englyn syml ar adeg geni, priodi a marw; yn un dechau. Yn wahanol i feirdd mawr ei gyfnod roedd yr Eryr yn cadw ei ganu yn syml ac yn gryno heb rwysg or-sentimental rhai o'i gyfoedion[9].

Er nad oes cofnod o'i urddo mae'r Eryr yn cael ei adrodd yn yr wasg fel hen aelod sefydlog o'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberhonddu 1889.

Mae'n ymddangos iddo rhoi'r gorau i farddoni wedi iddo ddyfod yn asiant y glowr ym 1898.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

O'i ieuenctid roedd Williams yn aelod pybyr o'r Blaid Ryddfrydol, fel bardd, anghydffurfiwr a chefnogwr achos hunain lywodraeth i Gymru roedd yn aelod o adain genedlaetholgar y Rhyddfrydwyr - Cymru Fydd. Fel undebwr llafur a chefnogwr hawliau'r gweithwyr roedd hefyd yn cefnogi adain llafur y Blaid Ryddfrydol. Erbyn troad y 19 / 20 ganrif roedd tensiynau yn codi rhwng y ddwy adain. Roedd nifer o'r llafurwyr yn credu bod ymrwymiad pobl fel Mabon a Williams i'w cyd-genedlaetholwyr megis Lloyd-George a Tom Ellis yn rhwystro datblygu Plaid Lafur go iawn ac yn gweld y Gymraeg fel rhwystr i uno'r dosbarth gweithiol[10]. Yn wir bu'r anghydfod mor ddrwg rhwng y ddwy adain o'r blaid fel i Charles Butt Stanton gweiddi'r slogan death to Mabon yn ystod streic ym 1906.

Roedd Mabon yn hynafgwr erbyn i'r rhwyg cychwyn ac wedi aredig ei rych, ond bu'n rhaid i ŵr weddol ifanc fel Williams gwneud dewis rhwng bod yn llafurwr neu'n Gymro. Dewis Williams oedd bod yn llafurwr. Mae'n ymddangos iddo roi'r gorau i farddoni tua 1898. Mae cwestiwn iaith cyfrifiad 1901 yn dangos bod y cyfan o'i blant dros 3 mlwydd oed yn gallu'r Gymraeg. Mae'r cwestiwn iaith yng nghyfrifiad 1911 yn dangos ei fod wedi magu ei blant a anwyd ar ôl 1898 yn uniaith Saesneg.

Etholwyd Williams yn gynghorydd ar gyngor dosbarth Aberpennar ym 1890. Fe'i dewiswyd yn ymgeisydd ar gyfer ymladd yn etholiadau Cyngor Sir Forgannwg 1898; ond wedi ei benodi yn oruchwyliwr Ffederasiwn y Glowyr tynnodd ei enw yn ôl.

Bu rhwyg rhwng aelodau Cymdeithas Ryddfrydol etholaeth Gŵyr wrth ddewis ymgeisydd ar gyfer etholiad cyffredinol 1906. Roedd mawrion y Gymdeithas Ryddfrydoli am enwebu Thomas Jeremiah Williams bargyfreithiwr a diwydiannwr. Safodd T J Williams fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol swyddogol ac Eryr Glan Gwawr fel ymgeisydd Llafur Rhyddfrydol annibynol. Llwyddodd yr Eryr i gipio'r sedd. Wedi ei ethol cymerodd y chwip Rhyddfrydol yn y senedd hyd 1909, pan benderfynodd Undeb y Glowyr i gefnogi'r Blaid Lafur newydd. Parhaodd yn AS Lafur hyd ei farwolaeth

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref yn y Sgeti yn 61 mlwydd oed, wedi bod yn dioddef am beth amser o afiechyd mewnol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "MRJOHNWILLIAMSYXYSYBWL - Papur Pawb". Daniel Rees. 1895-04-27. http://hdl.handle.net/10107/3587922. Adalwyd 2017-12-17.
  2. "MOTHEROFGOWERMPI - Llais Llafur". E. Rees & Sons. 1916-04-01. http://hdl.handle.net/10107/3978418. Adalwyd 2017-12-20.
  3. Archif Genedlaethol lloegr Cyfrifiad 1911 cofnod:RG14PN32772 RD594 SD3 ED15 SN272 Godre'r Bryn, Queens Road, Sketty, Swansea
  4. Prifysgol Newcastle Mining - Children in the Mines – Useful Reports & Sources (cyflwyniad) adalwyd 20 rhagfyr 2017
  5. "NewColliersLeader - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-04-16. http://hdl.handle.net/10107/3275313. Adalwyd 2017-12-20.
  6. Y Bywgraffiadur BRACE, WILLIAM (1865 - 1947), arweinydd llafur ac aelod seneddol
  7. "Advertising - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1883-11-29. http://hdl.handle.net/10107/3112801. Adalwyd 2017-12-21.
  8. "EISTEDDFOD FLYNYDDOL TREHARRIS - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1883-12-27. http://hdl.handle.net/10107/3112836. Adalwyd 2017-12-21.
  9. 9.0 9.1 "PRIODAS - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1884-02-28. http://hdl.handle.net/10107/3112919. Adalwyd 2017-12-21.
  10. LABOUR AND LIBERALS IN THE GOWER CONSTITUENCY, 1885-1910 STUDIES relating to the rise of Labour in south Wales

[1]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Aeron Thomas
Aelod Seneddol Gŵyr
19061922
Olynydd:
David Grenfell