Oriol Junqueras

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Oriol Junqueras
Retrat oficial del Vicepresident Oriol Junqueras (cropped).jpg
Ganwyd Oriol Junqueras i Vies Edit this on Wikidata
11 Ebrill 1969 Edit this on Wikidata
Sant Andreu de Palomar Edit this on Wikidata
Man preswyl Sant Vicenç dels Horts Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Catalwnia Catalwnia
Addysg Doethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona
Galwedigaeth gwleidydd, hanesydd, academydd, awdur, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona
Plaid Wleidyddol Esquerra Republicana de Catalunya Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.junqueras.cat/ Edit this on Wikidata
Llofnod
Firma de Oriol Junqueras.svg

Gwleidydd, hanesydd a chyn-Arlywydd Catalwnia yw'r Dr Oriol Junqueras i Vies (Ynganiad Catalanaidd: ; ganwyd 11 Ebrill 1969).[1] Ef oedd Is-Lywydd Generalitat de Catalunya rhwng Ionawr 2016 a Hydref 2017. Bu'n faer Sant Vicenç dels Horts ac yn llywydd y blaid Esquerra Republicana de Catalunya, ERC ers 17 Medi 2011.

Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 sefydlodd Junts pel Sí ('Ie gyda'n Gilydd') a enillodd 62 o seddi allan o 135 yn Llywodraeth Catalwnia.[2]

Addysg a gwaith cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Treuliodd ei flynyddoedd cynnar mewn ysgol Eidalaidd ym Marcelona cyn astudio economeg ym Mhrifysgol Barcelona, a graddio mewn Hanes cynnar a modern ac yna Doethuriaeth mewn Hanes y Meddylfryd Economeg gan ganolbwyntio o'r 17g i'r cyfnod modern.[3]

Mae'n ddarlithydd rhan amser ym Mhrifysgol Ymreolaethol Barcelona ac wedi cyfrannu'n helaeth i raglenni radio a theledu ar hanes a gwleidyddiaeth ee En Guàrdia ac El nas de Cleòpatra, ar Radio Catalwnia, Minoría absoluta ac El Món ar RAC 1 ac El favorit (2005) ar TV3; gweithiodd hefyd fel ymgynghorydd rhaglenni dogfen, teledu megis Els Maquis, La guerra silenciada a Conviure amb el risc.

Carcharu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 2 Tachwedd 2017, yn dilyn Datganiad o Annibyniaeth gan Lywodraeth Catalwnia, fe'i carcharwyd gan Lys Cenedlaethol Sbaen, ynghyd ag aelodau eraill o'r Llywodraeth, oherwydd ei ymgyrch dros annibyniaeth Catalwnia.

Sefydlodd glymblaid Gweriniaeth Chwith Catalwnia-Catalwnia Ie (ERC–CatSí) i ymladd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017, gan wneud hynny o'r carchar. Enillodd ei blaid 6 sedd ychwanegol gan ddod yr ail blaid mwyaf: cyfanswm o 26 sedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]