Syrieg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llawysgrif Syrieg o'r 11g.

Iaith Semitaidd yw Syrieg. Deilliodd o dafodiaith ddwyreiniol yr Aramaeg yn Edessa, Osroene (heddiw Şanlıurfa, Twrci), un o ganolfannau'r Cristnogion cynnar. Siaredid yn Syria hyd y 13g. Defnyddir hyd heddiw fel iaith litwrgïaidd mewn rhai eglwysi dwyreiniol gan gynnwys Eglwys Asyriaidd y Dwyrain, yr Eglwys Uniongred Syrieg, yr Eglwys Gatholig Galdeaidd a'r Eglwys Faronaidd.

Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.