Talysarn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Neuadd Band Arian Dyffryn Nantlle, Talysarn.
Talysarn o'r awyr
Ystad Bro Silyn ar gwr Talysarn

Pentref yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, yw Talysarn heb fod ymhell o Ben-y-groes. Tyfodd y pentref yn gyflym yn ystod y 19g pan oedd nifer o chwareli llechi yn yr ardal, megis Chwarel Dorothea.

Pobl o Dalysarn[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Brodor o Dalysarn oedd y bardd R. Williams Parry a aned yn Rhif 37, Ffordd yr Orsaf. Mae cofeb iddo yn Ffordd yr Orsaf a gynlluniwyd gan R.L. Gapper.
  • Annant, chwarelwr, beirniad eisteddfodol a bardd.
  • Gwilym R. Jones, bardd, llenor a golygydd Y Faner.
  • Idwal Jones, awdur y gyfres radio SOS, Galw Gari Tryfan.

Cysylltir Talysarn hefyd a'r pregethwr enwog o'r 19g, John Jones, Talysarn, er nad oedd ef yn enedigol o'r ardal.

Archaeoleg a mytholeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng Penygroes a Thalysarn mae bryngaer Caer Engan. Mae gan yr ardal gysylltiadau a phedwaredd cainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Dolbebin gerllaw Talysarn oedd cartre’r forwyn Goewin, ac heb fod ymhell mae Baladeulyn, lle darganfu Gwydion ei nai Lleu Llaw Gyffes ar ffurf eryr clwyfedig mewn derwen.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gwilym R. Jones, "Yn Nhal-y-sarn ers talwm...". Atgofion am Ddyffryn Nantlle. (Llyfrgell Sir Gaernarfon, 1968)